Os na fydd cyfrif papurau pleidleisio yn gyson, dylech ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn y tabl canlynol a dogfennu'r canlyniad ar y datganiad dilysu priodol:
Cam
Cam gweithredu i'w gymryd
Gwiriadau rhagarweiniol
Gwiriwch y rhifyddeg ar y cyfrif papurau pleidleisio yn llawn ynghyd â nifer y papurau pleidleisio heb eu defnyddio
Edrychwch ar y pecynnau eraill o ddeunyddiau a ddychwelwyd ac unrhyw gofnodlyfr gan yr orsaf bleidleisio er mwyn ceisio nodi unrhyw reswm dros bapurau pleidleisio coll neu ychwanegol
Sicrhewch nad yw'r papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi cael eu hychwanegu at nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr orsaf bleidleisio
Dylech ystyried cysylltu â'r Swyddog Llywyddu a gofyn iddo/iddi geisio esbonio unrhyw anghysondebau
Gwirio nifer y blychau pleidleisio a ddosbarthwyd
Edrychwch ar y cofnod o flychau pleidleisio a ddosbarthwyd i weld a gafodd mwy nag un blwch pleidleisio ei ddosbarthu i'r orsaf bleidleisio a sicrhewch fod yr holl flychau a ddyrannwyd i'r orsaf yn cael eu hagor ac y cyfrifir amdanynt
Chwilio am wallau cywiriol
Gwiriwch y blychau pleidleisio ar gyfer yr holl orsafoedd pleidleisio yn yr un man pleidleisio
Efallai y bydd y broses o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio eraill yn y lleoliad hwnnw yn dangos gwall cywiriol am fod etholwyr wedi gosod eu papur pleidleisio yn y blwch ‘anghywir’ neu mewn blwch o'r orsaf bleidleisio anghywir
Os bydd y gwallau cywiriol yn gwrthbwyso ei gilydd, gellir tybio bod y broses ddilysu wedi bod yn llwyddiannus
Ailgyfrif y papurau pleidleisio
Os daw'r blwch pleidleisio o un orsaf bleidleisio, neu os nad oes unrhyw wall cywiriol yn ffigurau'r orsaf bleidleisio arall/gorsafoedd pleidleisio eraill yn y man pleidleisio hwnnw, ail-gyfrifwch y papurau pleidleisio yn y blwch o leiaf ddwywaith eto, neu hyd nes bod yr un ffigur yn cael ei gyfrif ar ddau achlysur yn olynol
Ailddilysu'r cyfansymiau
Os bydd unrhyw anghysondeb o hyd, ar ôl dilyn y gweithdrefnau a amlinellir uchod, defnyddiwch nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a ail-gyfrifwyd gan y staff cyfrif fel y ffigur a ddilyswyd a gwnewch nodyn priodol ar y cyfrif papurau pleidleisio
Cadarnhau unrhyw amrywiad yn eich cofnodion
Ychwanegwch y cyfanswm a ddilyswyd a'r amrywiad rhwng hwnnw a'r nifer ar y cyfrif papurau pleidleisio at y datganiad am ganlyniad y broses ddilysu, gan esbonio pam bod yr amrywiad hwnnw wedi digwydd os oes modd, a thrafodwch hyn ag unrhyw asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol
Rydym wedi llunio rhestr wirio o'r camau i'w cymryd wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio.