Unwaith y bydd yr holl bapurau pleidleisio wedi’u didoli a bod unrhyw bleidleisiau amheus wedi’u dyfarnu, gall y dasg allweddol o gysoni ddechrau.
Rhaid i chi gyfrif yr holl fwndeli a bwndeli rhannol o bapurau pleidleisio sy’n dangos pleidlais ddilys ar gyfer pob ymgeisydd.
Rhaid i chi wedyn ychwanegu’r cyfanswm ar gyfer pob plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol at gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd. Dylai’r cyfanswm hwn gyfateb yn union i gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a gafwyd ar ddiwedd y broses ddilysu.
Os yw’r ddau ffigwr yn cytuno, dylech fynd ymlaen i’r broses o ymgynghori â’r ymgeiswyr a’r asiantiaid ynghylch y canlyniad dros dro.
Os nad yw'r ffigyrau'n cytuno, dylech ddilyn y weithdrefn ar gyfer canlyniadau sydd heb eu cysoni.
Gweithdrefn ar gyfer canlyniadau heb eu cysoni
Dylech fod yn fodlon bod y canlyniadau neu’r cyfansymiau (fel sy'n briodol) yn adlewyrchu’r pleidleisiau a dderbyniwyd. Os nad yw’r ffigyrau’n cysoni, dylech gymryd camau er mwyn adnabod a chywiro’r anghysondeb megis:
gwirio'r man storio a gwneud yn siŵr bod yr holl flychau pleidleisio wedi cael eu hagor a’u bod yn wag
gwirio pob llawr ac arwyneb am bapurau pleidleisio a allai fod wedi cael eu gollwng yn lleoliad y cyfrif
ailwirio'r ffigyrau dilysu a chysoni ar gyfer camgymeriadau cyfrifo
sicrhau bod pob papur pleidleisio a wrthodwyd wedi'i gyfrifo
gwirio bod yr holl fwndeli a’r bwndeli rhannol wedi cael eu cyfrif
ystyried ailgyfrif y papurau pleidleisio yn y bwndeli
Dylech hefyd gynnal unrhyw wiriadau eraill sy’n angenrheidiol yn eich barn chi.