Dylech baratoi cofnodlyfr gorsaf bleidleisio i staff gorsafoedd pleidleisio ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw broblemau neu anghysondebau.
Dylech roi cyfarwyddiadau i staff gorsafoedd pleidleisio gofnodi’r canlynol yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio:
unrhyw ddigwyddiadau lle mae angen iddyn nhw ofyn y cwestiynau penodol o ganlyniad i bersoniad tybiedig. Dylid gwneud hyn ar ôl i’r unigolyn dan sylw adael yr orsaf bleidleisio. Dylent gofnodi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl, er enghraifft, unrhyw nodweddion i’w hadnabod, a all helpu unrhyw archwiliad yn y dyfodol. Mae'r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn nodi’r weithdrefn ar gyfer delio â chambersonadu, sy’n cynnwys gofyn y cwestiynau rhagnodedig.
enw a chyfeiriad unrhyw bleidleisiwr nad yw'n gallu pleidleisio am unrhyw reswm gweinyddol
unrhywbeth a all helpu i egluro unrhyw broblemau gyda chyfrifon y papurau pleidleisio wrth ddilysu - er enghraifft, os oes pleidleisiwr wedi ei weld yn gadael yr orsaf bleidleisio gyda phapur pleidleisio. Dylech ystyried dweud wrth y Swyddogion Llywyddu i gadw’r cofnodlyfr a chyfrifon y papur pleidleisio gyda’i gilydd wrth ddanfon y papurau pleidleisio i’w cyfri.
manylion y rhai sy’n bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio at ddibenion arsylwi gweithredoedd, gan gynnwys ymweliadau gan yr heddlu a staff Swyddogion Canlyniadau
unrhyw adegau pan aethant ati i gyfyngu dros dro nifer yr arsyllwyr a all aros yn yr orsaf bleidleisio, er mwyn sicrhau bod y broses bleidleisio’n bwrw ymlaen yn effeithiol
digwyddiadau lle maent yn gweld rhywun ar wahân i gydymaith penodedig neu blentyn yn ceisio mynd gyda phleidleisiwr i’r bwth pleidleisio, a'r camau yn dilyn hynny
unrhyw adborth ar y defnydd o unrhyw offer penodol a ddarparwyd i’r orsaf bleidleisio
gwybodaeth ddefnyddiol am unrhyw sefyllfaoedd anodd a gododd
Os ydych yn bryderus bod posibilrwydd o gambersonadu wedi digwydd mewn gorsaf bleidleisio, dylech gysylltu â’ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu a gallwch hefyd gysylltu â’ch tîm Comisiwn Etholiadol yng Nghymru am ragor o gymorth. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gynnal uniondeb yr etholiad.