Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol
Mae’n rhaid i chi ddarparu pob Swyddog Llywyddu â'r rhan briodol o'r gofrestr ar gyfer eu gorsaf bleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol priodol.1 Gellir darparu’r gofrestr ar ffurf papur neu electronig.2
Dylid hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio ar y marcwyr etholfraint amrywiol a fydd yn ymddangos ar y gofrestr. Mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch manylion personol pleidleiswyr ar y gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleisio absennol.
Gellir argraffu copïau argraffedig o gofrestrau’r gorsafoedd pleidleisio ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol, pum diwrnod gwaith cyn diwrnod pleidleisio. Fodd bynnag, dylech sicrhau bod holl gofrestrau gorsafoedd pleidleisio:
- yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn gyflawn
- yn adlewyrchu unrhyw beth a ychwanegwyd neu a ddilëwyd o’r gofrestr yn ddiweddar
- yn cynnwys y marcwyr etholfraint priodol
Dylech ofyn i'ch Swyddogion Llywyddu wirio:
- bod y gofrestr gywir wedi ei darparu ar gyfer eu gorsaf bleidleisio a
- bod y gofrestr yn cynnwys y nifer disgwyliedig o etholwyr a ddyrannwyd i’w gorsaf bleidleisio.
Newidiadau i’r gofrestr
Dylech sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol a wneir cyn diwrnod pleidleisio neu ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Dylai’r gweithdrefnau hyn gynnwys eich dull:
- o ddiwygio cofrestrau’r orsaf bleidleisio a rhestrau dirprwy o ganlyniad i gywiro gwallau clerigol, cymeradwyo ceisiadau dirprwy brys, neu benderfyniadau llys ar apeliadau cofrestru
- o gyfathrebu’r wybodaeth berthnasol i Swyddogion Llywyddu, y gellir ei wneud ar lafar neu yn ysgrifenedig
Os yw unigolyn yn gwneud cwyn i staff yr orsaf bleidleisio sy’n awgrymu y dylent fod ar y gofrestr etholiadol, dylai’r Swyddog Llywyddu gyfathrebu’r gynrychiolaeth honno i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted ag sy’n ymarferol. Er mwyn i hyn weithio’n effeithiol bydd angen systemau cyfathrebu addas ar waith rhwng y Swyddogion Llywyddu a’r Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Ceir rhagor o wybodaeth am wallau clerigol yn ein cyfarwyddiadau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Cross-boundary constituencies
Mewn achos lle mae etholaeth yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol, dylech chi a’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn eich etholaeth gytuno ar ddull o hysbysu Swyddogion Llywyddu am newidiadau i’r gofrestr o ganlyniad i wall clerigol, penderfyniadau llys neu gymeradwyo dirprwy brys.
continuation
Am ragor o wybodaeth ynghylch hyfforddiant, gweler ein cyfarwyddyd ar hyfforddi swyddogion llywyddu, clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
- 1. Atodlen 5, Rheol 37, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodiad 5, Rheol 37(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2