Mae’n rhaid i chi ddarparu pecynnau ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd i orsafoedd pleidleisio.2
Dylai nifer y pecynnau a’u harddull, fan leiaf, fod yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf, ond dylech gadw mewn cof y posibilrwydd o ddiddordeb ac ymgysylltiad hwyr yn yr etholiad, ac unrhyw faterion lleol neu genedlaethol a all effeithio ar y nifer sy’n pleidleisio.
Dylid cadw cofnodion o'r holl fath becynnau fel y gall pob un gael ei gyfrifo. Dylai'r pecynnau gael eu labelu'n glir a nodi:
eu bod yn cynnwys pleidleisiau post
enw'r orsaf bleidleisio a dynodwr yr orsaf bleidleisio
Diogelwch pleidleisiau post a ddychwelwyd
Dylech sicrhau bod modd selio’r pecynnau’n ddiogel.
Mae gan asiantiaid pleidleisio’r hawl i atodi eu sêl i becynnau wedi’u selio cyn iddyn nhw adael yr orsaf bleidleisio ac felly rhaid eu caniatáu i wneud hynny.3
Fel rhan o’ch hyfforddiant, dylech bwysleisio i Swyddogion Llywyddu pwysigrwydd cynnal diogelwch pleidleisiau post a ddychwelwyd i orsafoedd pleidleisio. Dylid rhoi pleidleisiau post yn y pecynnau perthnasol a ddarparwyd ar unwaith a dylai’r Swyddog Llywyddu sicrhau y cedwir y pecynnau yn ddiogel trwy gydol y diwrnod.
Dylech drefnu i'r pleidleisiau post gael eu casglu o’r gorsafoedd pleidleisio drwy gydol y diwrnod gan y bydd hyn yn helpu i leihau’r nifer y bydd angen delio â hwy ar ôl cau’r bleidlais. Gall arolygwyr gorsafoedd pleidleisio berfformio’r ddyletswydd hon. Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal llwybr archwilio clir ac i sicrhau diogelwch pecynnau pleidleisiau post a gasglwyd wrth iddyn nhw gael eu cludo.