Gwneud cais am gopi o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol
Gellir cael copïau o'r gofrestr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol. Bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi'i benodi ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn ardal yr heddlu i gynnal y cofrestrau etholwyr. Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad
Er bod yn rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech hefyd gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, a all fod wedi rhoi trefniadau ar waith i gydgysylltu ceisiadau ar gyfer yr holl gofrestrau a rhestrau yn ardal yr heddlu.
Darperir y gofrestr a'r rhestrau ar ffurf electronig oni fydd cais penodol am gopi papur.
Bydd y fersiwn o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau a ddarperir yn gyfredol ar adeg eich cais. Gallwch hefyd wneud cais am ddiweddariadau i'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau a gyhoeddir yn y cyfnod cyn yr etholiad, gan gynnwys y rhestr o etholwyr sydd newydd gofrestru pan gaiff ei chyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Gallai unrhyw un sy'n torri'r cyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol wynebu dirwy anghyfyngedig. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol yng Nghymru a Lloegr.