Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol
Mae'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol yn cynnwys data personol pobl ac felly rheolir eu defnydd yn ofalus iawn.
Gallwch eu defnyddio i:
gwblhau eich ffurflen enwebu
eich helpu i ymgyrchu
cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir
Ni ddylech roi unrhyw fanylion sydd ond yn ymddangos ar y gofrestr lawn ac nid ar y gofrestr agored, sydd ar werth yn gyffredinol, i neb. Ni ddylech ddefnyddio'r gofrestr lawn na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol at unrhyw ddiben arall nad yw wedi'i restru uchod. 1
Os byddwch wedi rhoi copi o'r gofrestr neu'r rhestrau o bleidleiswyr absennol i weithwyr ymgyrch, rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â'r gofynion uchod.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol yn ddiogel. 2
Pan na fydd angen y gofrestr na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol arnoch mwyach at ddiben etholiadol, dylech ddinistrio unrhyw gopïau a roddwyd i chi fel ymgeisydd yn unol â chanllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth.
1. Regulation 108 Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001, regulation 107 Representation of the People (Scotland) Regulations 2001↩ Back to content at footnote 1