Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Llofnodion llofnodwyr
Mae angen i bob ffurflen enwebu gael ei llofnodi gan y 10 o etholwyr sydd ar y gofrestr etholiadol seneddol yn yr etholaeth rydych yn bwriadu sefyll etholiad ynddi.
Bydd y ddau etholwr cyntaf yn llofnodi ac yn ysgrifennu eu henwau fel y cynigydd a'r eilydd, a bydd yr wyth arall yn llofnodi fel cefnogwyr.
Rhaid i'r etholwyr fod o oedran pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio a bod ar y gofrestr sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad.
Dim ond un ffurflen enwebu all bob etholwr danysgrifio yn yr etholiad.1
Os bydd etholwr yn llofnodi dau neu fwy o ffurflenni enwebu, bydd y ffurflen enwebu gyntaf a ddanfonir at y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cael ei dderbyn a bydd y gweddill yn annilys.
Felly, dylech bob amser holi, cyn gofyn i lofnodwr lofnodi eich ffurflen, p'un a yw eisoes wedi llofnodi ffurflen rhywun arall.
Os bydd ffurflen enwebu yn cynnwys mwy na deg llofnod, dim ond y deg cyntaf a dderbynnir.2 Os bydd unrhyw un o'r deg llofnod cyntaf yn annilys, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) bennu bod y ffurflen enwebu'n annilys, waeth p'un a yw'r ffurflen yn cynnwys mwy na deg ai peidio.3
Nid oes dim yn eich atal rhag llofnodi eich enwebiad eich hun ar yr amod eich bod wedi'ch cofrestru yn yr etholaeth.
Gall fod rhai etholwyr ar y gofrestr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw am eu bod yn poeni am eu diogelwch.
Ni chaiff etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw lofnodi ffurflenni enwebu.
Dangosir etholwyr di-enw ar y gofrestr gyda'u rhif pleidleisio a'r llythyren 'N' yn unig (yn hytrach na'u henw a chyfeiriad).
Ni ddylai ffurflenni enwebu gael eu newid ar ôl eu llofnodi. Dylai eich holl fanylion gael eu cwblhau cyn i chi wahodd unrhyw un i lofnodi eich enwebiad. Unwaith y bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi derbyn ffurflen enwebu, ni all llofnodion gael eu tynnu'n ôl.
Y rhif etholwr
Mae'n rhaid rhoi rhif etholwr pob tanysgrifiwr fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, ar y ffurflen enwebu.4 Mae'r rhif etholwr yn cynnwys rhifau neu lythrennau nodedig y dosbarth pleidleisio, sydd ar flaen y gofrestr fel arfer.
Bydd y Swyddog Cofrestru (Gweithredol) a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gallu eich cynghori ar sut y gosodir y gofrestr.
Bydd hawl gennych i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol.5
Dylech ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod eich ffurflen enwebu wedi'i llofnodi'n gywir.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data , a'r ddarpariaeth etholiadol y cawsoch y gofrestr drwyddi, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholwyr yn ddiogel ac ar ôl i chi orffen ei defnyddio, dylech sicrhau ei bod yn cael ei dinistrio'n ddiogel.
Ystyriaethau diogelu data
Wrth gasglu gwybodaeth am lofnodwr, dylech nodi at ba ddibenion y caiff y wybodaeth ei defnyddio, a sut y caiff data personol eu prosesu a'u cadw'n ddiogel. Sail gyfreithiol casglu'r wybodaeth yn y ffurflen hon yw bod ei hangen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac arfer awdurdod swyddogol fel y nodir yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a'r rheoliadau cysylltiedig.
Dylech hefyd esbonio y bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â'r Swyddog Canlyniadau. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu a phrosesu data, dylech gyfeirio at hysbysiad preifatrwydd y Swyddog Canlyniadau ar ei wefan. Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gall y ddeddfwriaeth diogelu data bresennol effeithio arnoch chi fel ymgeisydd.
- 1. Rheol 7(5), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 7(2), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheolau 7(2) a 12(2)(b), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 7, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 108, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a rheoliad 107, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 5