Mae gan y bobl ganlynol hawl i fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post a ddychwelwyd:
chi
eich asiant etholiad neu berson a benodwyd gennych i fod yn bresennol yn ei le.1
asiantiaid rydych wedi'u penodi i fynychu agoriadau ar eich rhan.2
Am fanylion ar sut i benodi'r asiantiaid hyn gweler Penodi eich asiant etholiad.
Dyletswydd i gadw cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post
Bydd papurau pleidleisio yn cael eu cadw wyneb i lawr drwy gydol sesiwn agor pleidleisiau post.3
Mae gan unrhyw un sy’n mynychu sesiwn agor ddyletswydd i gadw cyfrinachedd ac ni ddylai:
cael
ceisio cael
cyfathrebu i berson arall ar unrhyw adeg
unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn papur pleidleisio4
unrhyw wybodaeth am y marc swyddogol ar bapur pleidleisio drwy'r post cyn diwedd y cyfnod pleidleisio5
datgelu sut mae unrhyw bapur pleidleisio penodol wedi'i farcio neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth o'r fath a gafwyd o'r sesiwn.
Mae'n dilyn felly na chaniateir cadw tali o sut mae papurau pleidleisio wedi cael eu marcio.
Gall unrhyw un sy’n cael eu canfod yn euog o dorri’r gofynion hyn wynebu dirwy, neu gael eu carchari am hyd at chwe mis. Yng Nghymru a Lloegr, mae'r ddirwy yn ddiderfyn; yn yr Alban, mae hyd at £5,000.6
1. Rheoliad 68 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 68 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliad 69,Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 2
3. Rheoliad 84(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 84(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 3