Gallwch benodi asiantiaid i fynychu agoriadau pleidleisiau post.
Gellir penodi unrhyw un, ac eithrio’r bobl ganlynol a restrir isod, yn asiant pleidlais bost:
y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff1
partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff2
unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.3
Gallwch chi a'ch asiant etholiadol weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hyn heb fod angen penodiad swyddogol.4
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn dweud wrthych beth yw uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisio drwy’r post y gallwch eu penodi.5
Bydd pob ymgeisydd yn cael penodi yn union yr un nifer.
Mae’n rhaid gwneud y cais i benodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Mae’n rhaid i'r cais gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl sy'n cael eu penodi.6
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen penodi asiant pleidlais drwy'r post y Comisiwn.
Mae angen cyflwyno ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisio drwy'r post i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer agor pleidleisiau post y maent am fod yn bresennol ar ei gyfer.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn y dechrau sydd wedi'i drefnu ar gyfer pob sesiwn agor pleidleisiau post.7
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gallwch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen benodi berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).8
Mae'n rhaid hysbysu am y penodiadau o dan yr amgylchiadau hyn heb oedi.
4. Rheoliad 69(7) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69(7) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 4
5. Rheoliad 69(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 5
6. Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 6
7. Rheoliad 80 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 80 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 7
8. Rheoliad 69(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 69(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 8