Beth y mae'r pecyn pleidleisio drwy'r post yn ei gynnwys?
Mae pecynnau pleidleisio drwy’r post yn cynnwys y canlynol:
amlen A yw'r amlen y mae'r etholwr yn dychwelyd ei bapurau pleidleisio ynddi. Fe'i nodir â'r llythyren 'A' a'r geiriau 'amlen papur pleidleisio’
amlen B yw'r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post. Mae wedi’i farcio â’r llythyren ‘B’ a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cynnwys enw'r etholwr, rhif y papur pleidleisio a anfonwyd ato, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy'r post a lle i'r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni
y papur pleidleisio
Os caiff yr etholiad ei gyfuno â phleidlais arall, efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi penderfynu cyfuno dosbarthiad y pleidleisiau post.
Os felly, bydd y pecyn pleidleisio drwy'r post hefyd yn cynnwys y papur pleidleisio ar gyfer y digwyddiad(au) etholiadol arall/eraill.