Bydd pecynnau pleidleisio drwy'r post yn cael eu hanfon at etholwyr o tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd etholwyr a gofrestrodd yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ac sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost yn agos at neu ar yr un pryd yn cael eu pecynnau pleidleisio drwy'r post dim ond pan fydd penderfyniad wedi'i wneud am eu cais am bleidlais bost, hyd yn oed os yw eu henwau wedi'u hychwanegu at ddiweddariad terfynol y gofrestr ar y pumed diwrnod gwaith.
Bydd etholwyr wedyn yn marcio eu papur pleidleisio, yn cwblhau’r datganiad pleidleisio drwy’r post drwy ddarparu eu llofnod a’u dyddiad geni, ac yn eu dychwelyd i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) cyn diwedd y cyfnod pleidleisio (h.y. 10pm ar y diwrnod pleidleisio).
Nid oes gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post hawl i fod yn bresennol pan ddosberthir pleidleisiau post.