Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post?

Gall y canlynol wneud cais i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau Senedd y DU drwy gyflwyno cais i’w Swyddog Cofrestru Etholiadol:

  • Person 18 oed neu’n hŷn sydd wedi cofrestru i bleidleisio
  • Person 18 oed neu’n hŷn sydd wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio
  • Person sydd wedi’i benodi i bleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall

Rhaid i'r cais ddod i law'r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar yr unfed diwrnod gwaith ar ddeg cyn yr etholiad. 1

Nid oes gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol unrhyw ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau am ba bynnag reswm.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ionawr 2024