Pryd y caiff amlenni pleidleisiau post eu hagor a sut y byddwch yn gwybod pryd y mae achlysur agor amlenni yn cael ei gynnal?
Mae'n debygol y cynhelir sawl achlysur agor amlenni cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal ag ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Mae’n rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol):
rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr ynghylch pryd a ble y cynhelir y sesiynau1
nodi faint o asiantiaid pleidleisio drwy'r post a gaiff fod yn bresennol ym mhob sesiwn
Bydd achlysur agor amlenni terfynol ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau er mwyn agor amlenni unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir â llaw i orsafoedd pleidleisio. Gellir cynnal y sesiwn hon yn lleoliad y cyfrif neu mewn lleoliad arall. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi gwybod i chi am leoliad yr agoriad terfynol.
1. Rheoliad 80 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 80 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 1