Caniateir i asiant pleidleisio drwy'r post fynychu ac arsylwi sesiynau agor pleidleisiau post, a gynhelir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Ym mhob sesiwn agor bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn penderfynu a yw'r dyddiad geni a'r llofnod a ddarparwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r llofnod a'r dyddiad geni a ddarparwyd yn flaenorol ac a gedwir ar eu cofnodion. Os na fydd y rhain yn cyfateb, caiff y bleidlais bost ei gwrthod.
Mae gan asiant pleidleisio drwy'r post hawl i arsylwi, ond nid i ymyrryd â'r broses hon. Fodd bynnag, gall asiant pleidleisio drwy'r post wrthwynebu penderfyniad Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod pleidlais bost.1
Ni fydd yn effeithio ar benderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), ond bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cofnodi unrhyw wrthwynebiadau drwy farcio'r datganiad pleidleisio drwy'r post â'r geiriau 'gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod'.
Fel eich asiantiaid pleidleisio drwy’r post, mae gennych chi, eich asiant etholiad a’r person y gallech fod wedi’i benodi i fod yn bresennol ar ran eich asiant etholiad hefyd yr hawl i wrthwynebu gwrthodiad.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn esbonio'r broses agor pleidleisiau post i chi a gall roi gwybodaeth i chi am y gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn y sesiwn. Dylech gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
1. Rheoliad 85A (4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 85A (4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 1