Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Sut rydych yn prisio rhodd?

Gwerth y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano. 1  Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £50 gan roddwr a ganiateir. 2

Os byddwch yn derbyn rhywbeth fel rhodd mewn da, am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, a'ch bod chi neu rywun arall yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch (a elwir hefyd yn wariant tybiannol), rhaid i chi hefyd ei gofnodi fel rhodd os bydd gwerth yr hyn a gawsoch yn fwy na £50. 3  Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. 4

Dylech ddarllen yr adran ar wariant tybiannol cyn darllen yr adran hon.

Yr egwyddor arweiniol

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu cael.

Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.

Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar werth masnachol nwyddau neu wasanaethau cyfatebol rhesymol. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.

Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio.
 

Examples

Enghraifft A

Mae cwmni argraffu'n cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i chi ar bris cynhyrchu taflenni ar gyfer eich ymgyrch. Gwerth masnachol y taflenni yw £200. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd. Y pris a dalwch am y taflenni yw £100.

Mae'r argraffwr wedi gwneud rhodd o £100 i chi: £200 (gwerth y nwyddau) - £100 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £100.

Enghraifft B

Mae dylunydd gwefannau yn cynnig creu gwefan ar gyfer eich ymgyrch am ddim. Gwerth masnachol ei wasanaethau yw £250. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd.

Mae dylunydd y wefan wedi gwneud rhodd o £250 i chi: £250 (gwerth y gwasanaethau) - £0 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £250.
 

Valuing a donation by sponsorship

Prisio rhodd drwy nawdd

Os bydd rhywun yn noddi cyhoeddiad neu ddigwyddiad ar ran yr ymgeisydd, gwerth y rhodd yw'r swm llawn a dalwyd ganddo.

Ni ddylech ddidynnu unrhyw symiau ar gyfer unrhyw fudd y mae'n ei gael drwy'r nawdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar nawdd.

Prisio mathau eraill o roddion

Ceir rhagor o wybodaeth am brisio gofod swyddfa a staff wedi'u secondio yn Prisio gwariant tybiannol a Rhannu gwariant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024