ac sy'n werth dros £50. 2
Nid ystyrir bod unrhyw beth sy'n £50 neu lai yn rhodd.
Mae'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn gymwys pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol. 3
Yn wahanol i wariant, nid oes ymgyrch hir ac ymgyrch fer ar gyfer rhoddion. Dim ond pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol y bydd y rheoliadau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.
Mae rhai enghreifftiau o roddion yn cynnwys:
rhodd arian neu fath arall o eiddo
talu anfoneb ar gyfer gwariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gennych chi
defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o eiddo neu gyfleusterau, er enghraifft defnydd am ddim o swyddfa
Rhoddion o £50 neu lai
Mae rhoddion o £50 neu lai y tu allan i gwmpas cyfraith etholiadol ac nid oes angen i chi eu cofnodi na’u hadrodd.
Fodd bynnag, mae’n drosedd ceisio osgoi’r rheolau ar roddion. Rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r cyfyngiadau caniatâd.4
Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £49 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi'r rheolau caniatâd.
Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.