Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ymgeiswyr sy'n aelodau plaid neu'n ddeiliaid swydd etholedig

Os ydych yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig neu os ydych eisoes yn dal rhyw swydd etholedig berthnasol, mae angen i chi ddilyn y rheolau ynglŷn â rhoddion a benthyciadau i chi, sy'n ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol cyn y cyfnod a reoleiddir. Er enghraifft, efallai y cewch rodd er mwyn helpu i ariannu'ch ymgyrch i gael eich ethol yn ymgeisydd.

Deiliaid swydd etholedig yw: 1

  • aelod o Senedd y DU 
  • aelod o Senedd yr Alban 
  • aelod o Senedd Cymru 
  • aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon 
  • maer awdurdodau cyfunol
  • aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, heb gynnwys cynghorau plwyf neu gymuned 
  • aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf 
  • Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall 
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 

Galwn yr unigolion hyn yn 'dderbynwyr a reoleiddir'. Dim ond ffynonellau penodol a ganiateir a all roi mwy na £500 neu gael benthyciad o fwy na £500 gyda derbynwyr rheoledig. 2  Rhaid i chi gadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir cyn cael benthyciad a bydd gennych 30 diwrnod i gadarnhau'r hyn a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 3

Os derbyniwch rodd neu'n cael benthyciad gwerth mwy na £2,230 (neu roddion neu fenthyciadau o un ffynhonnell sy'n gwneud cyfanswm o fwy na £2,230), rhaid i chi roi gwybod i ni am hyn o fewn 30 diwrnod i dderbyn y rhodd neu gael y benthyciad. 4

Os cewch eich ethol, bydd y rheolau hyn hefyd yn gymwys i chi ar ôl i chi gael eich ethol.

Gallwch weld ein canllawiau ar y rheolau hyn ar ein gwefan.

Os ydych yn dal un o'r swyddi etholedig hyn a'ch bod yn bwriadu sefyll ar gyfer llywodraeth leol, dylech hefyd sicrhau nad oes un swydd yn eich atal rhag dal y llall.

Ceir rhagor o wybodaeth am anghymhwyso yn Cymwysterau a gwaharddiadau ar gyfer sefyll etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024