Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pa gofnodion sydd angen i chi eu cadw?

Rhoddion a dderbyniwyd gennych

Os derbyniwch rodd gwerth dros £50, rhaid i chi gofnodi:

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math o rodd (gweler y dudalen ar y math perthnasol o roddwr) 1
  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol) 2
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y derbyniwyd y rhodd 3

Rhoddion a ddychwelwyd gennych

Os cewch rodd o ffynhonnell nas caniateir, rhaid i chi gofnodio'r manylion canlynol:

  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol) 4
  • enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai fod y rhodd yn ddienw) 5
  • os nad ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, manylion am sut y rhoddwyd y rhodd 6
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd 7
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych 8
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddynt) 9

Ar ôl yr etholiad

Bydd angen i chi gynnwys y manylion hyn ar eich ffurflen rhoddion ymgyrch fer. Mae rhagor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd y bydd angen i chi ei dychwelyd, yn Cwblhau eich dychweliad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023