Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd. 1
Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd arian o £100 yn ddienw), rhaid i chi ei dychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol:
y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi, neu
y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd 2
Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, cysylltwch â ni gan fod rhaid i chi anfon y swm cyfatebol at y Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Mawrhydi. 3Cysylltwch â ni i drefnu bod yr arian hwn yn cael ei drosglwyddo.
Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano. 4
1. Schedule 2A, paragraph 7 Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 56(2)(a) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1