Byddwch fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y byddwch yn dod yn berchen arni.
Er enghraifft:
os rhoddir taflenni am ddim i chi, rydych yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
os rhoddir siec i chi, rydych yn cael y rhodd ar y diwrnod y mae'r siec yn cael ei chlirio
os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif.
Os bydd yr ymgeisydd wedi derbyn rhodd, rhaid rhoi'r rhodd ac unrhyw wybodaeth ategol ynghylch pwy yw'r rhoddwyr ac a gaiff ei ganiatáu i'r asiant etholiad os bydd un wedi'i benodi. 1 O dan y gyfraith, yn yr amgylchiadau hyn, caiff rhodd ei thrin fel pe bai'n cael ei derbyn gan yr asiant ar y diwrnod y cafodd ei derbyn yn y lle cyntaf gan yr ymgeisydd. 2 Felly, rhaid i ymgeiswyr roi rhoddion ac unrhyw wybodaeth ategol i'w asiant cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Pryd y byddwch yn derbyn rhodd?
Byddwch yn derbyn rhodd ar y diwrnod y byddwch yn cytuno i gadw'r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os byddwch yn defnyddio'r rhodd, byddwch wedi'i derbyn o ganlyniad.
Os byddwch yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi'i derbyn.