Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:
maent yn arsylwi ar y broses gyfrif ac yn sicrhau ei bod yn gywir
gallant dynnu sylw'r staff cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
os byddant yn anghytuno â phenderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) farcio ar y papur pleidleisio "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”
os caiff y broses gyfrif ei hatal am unrhyw reswm, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn selio'r blychau pleidleisio a'r amlenni
Gallwch chi a'ch asiant etholiad wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif hawl i'w wneud.