Cewch benodi pobl eraill yn asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif.1
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i'r rhai a restrir isod, fel asiant cyfrif.
Ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid cyfrif:
y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff2
partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff3
unrhyw un na chaiff bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu euogfarn am arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19834
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol5
. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn nodi uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif y gallwch eu penodi.
Caiff pob ymgeisydd benodi'r un nifer.
Yn y cyfrif, oni fydd amgylchiadau arbennig, ni fydd nifer yr asiantiaid cyfrif a ganiateir fesul ymgeisydd yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny a gyflogir i gyfrif) â nifer yr ymgeiswyr.6
Rhaid i'r cais i benodi'r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)7
Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid cyfrif ar wefan y Comisiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid cyfrif yw erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf.8
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)9
Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylai a'r hyn na ddylai asiantiaid ei wneud, a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld yn y cyfrif, yn ein canllawiau Beth yw gwaith asiant cyfrif?