talu anfoneb ar gyfer gwariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gennych chi
benthyciad nas rhoddwyd ar delerau masnachol
noddi digwyddiad neu gyhoeddiad
defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o eiddo neu gyfleusterau, er enghraifft defnyddio swyddfa am ddim
Rhoddion o £500 neu lai
Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas cyfraith etholiadol ac nid oes angen i chi eu cofnodi na’u hadrodd.
Fodd bynnag, mae’n drosedd ceisio osgoi’r rheolau ar roddion. Rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r cyfyngiadau caniatâd.4
Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £499 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi'r rheolau caniatâd.
Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.
1. Atodlen 6, paragraff 1(2) a pharagraff 2(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025↩ Back to content at footnote 1