Os ydych chi’n gwybod pwy yw’r rhoddwr, mae’n rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod o gael y rhodd.1
Os yw’r rhodd yn dod gan ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd ariannol ddi-enw o £600), mae’n rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod o gael y rhodd:
i’r person wnaeth drosglwyddo’r rhodd i chi, neu
y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd2
Os nad ydych chi’n gallu adnabod y naill na’r llall, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda gan fod rheidrwydd i chi ddychwelyd y swm cyfatebol i’r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei dalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a reolir gan Drysorlys Ei Fawrhydi.3Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i drefnu trosglwyddiad yr arian hwn.
Os bydd llog wedi’i ennill ar y rhodd cyn i chi ei ddychwelyd, cewch ei gadw. Nid yw hwn yn cael ei drin fel rhodd, ac nid oes angen adrodd amdano.4
1. Atodlen 6, paragraff 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1
2. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(a) a (b) PPERA↩ Back to content at footnote 2
3. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(c) a (3) PPERA↩ Back to content at footnote 3