| Argraffu'r canllawiau llawn

Pryd ydych chi’n cael ac yn derbyn rhodd?

Fel arfer, rydych chi’n ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y mae yn eich meddiant.

Er enghraifft:

  • os rhoddir taflenni am ddim i chi, byddwch yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
  • os rhoddir siec i chi, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd y siec yn cael ei chlirio
  • os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif.

Os yw’r ymgeisydd wedi cael rhodd, mae’n rhaid i’r rhodd ac unrhyw wybodaeth gefnogol ynghylch pwy yw’r rhoddwr ac a yw’n ffynhonnell a ganiateir gael eu darparu i'r asiant etholiad os oes un wedi’i benodi.1  O dan y gyfraith, yn yr amgylchiadau hyn bydd rhodd yn cael ei hymdrin fel petai wedi'i rhoi i'r asiant ar y diwrnod y cafodd ei rhoi am y tro cyntaf i'r ymgeisydd.2

Pryd ydych chi'n derbyn rhodd?

Rydych yn derbyn rhodd ar y diwrnod rydych yn cytuno i gadw’r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os ydych yn defnyddio’r rhodd, rydych wedi’i derbyn o ganlyniad.

Os ydych yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi’i derbyn.3

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025