| Argraffu'r canllawiau llawn

Sut ydych chi’n cyfrifo gwerth rhodd?

Gwerth rhodd yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a’r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.1  Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn dros £500 yn dod gan roddwr a ganiateir.2

Os ydych yn cael rhywbeth fel buddion mewn nwyddau, yn rhad ac am ddim neu ar bris gostyngol anfasnachol o fwy na 10%, yr ydych chi neu rywun arall yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch (a adwaenir hefyd fel gwariant tybiannol), mae’n rhaid i chi hefyd adrodd am hyn fel rhodd os yw gwerth yr hyn a roddir i chi yn fwy na £500.3

I ostyngiadau anfasnachol yn unig mae'r rheolau ynghylch rhoddion yn berthnasol.4

Dylech ddarllen yr adran ar wariant tybiannol cyn darllen yr adran hon.

Yr egwyddor arweiniol

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu’r gwasanaeth rydych chi’n eu cael.

Os yw’r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio’r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw’r rhoddwr, dylech ddefnyddio’r cyfraddau y mae’n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.

Os nad yw’r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau neu wasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os ydych dal yn ansicr ynghylch sut i gyfrifo gwerth rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.

Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a gwerthusiadau fel eich bod yn gallu egluro p’un a oes rhodd wedi ei rhoi.

Enghraifft A

Mae cwmni argraffu yn cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% ar gynhyrchu taflenni ar gyfer eich ymgyrch. Gwerth masnachol y taflenni yw £1,200. Rydych chi’n cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd. Y pris rydych chi’n ei dalu am y taflenni yw £600.

Mae’r argraffwr wedi gwneud rhodd o £600 i chi: £1,200 (gwerth y nwyddau) - £600 (y pris rydych chi’n ei dalu) = rhodd anariannol o £600.

Enghraifft B

Mae dylunydd gwefan yn cynnig adeiladu gwefan ar gyfer eich ymgyrch am ddim. Gwerth masnachol ei wasanaethau yw £550. Rydych chi’n cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd.

Mae’r dylunydd gwefan wedi gwneud rhodd o £550 i chi: £550 (gwerth y gwasanaethau) - £0 (y pris rydych chi’n ei dalu) = rhodd anariannol o £550.

Prisio gwerth rhodd drwy nawdd

Os yw rhywun yn noddi cyhoeddiad neu ddigwyddiad ar ran yr ymgeisydd, gwerth y rhodd yw’r swm llawn y mae'n ei dalu.

Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw ddidyniad am unrhyw fudd y mae'n yn ei gael o’r nawdd. Gweler ein canllawiau ar nawdd am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Prisio gwerth mathau eraill o roddion

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch cyfrifo gwerth gofod swyddfa a staff sy’n cael eu secondio yn Prisio gwariant tybiannol a Gwahanu gwariant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2026