Os ydych eisoes yn dal swydd etholedig berthnasol, mae angen i chi ddilyn rheolau ynghylch rhoddion a benthyciadau i chi sy’n berthnasol i weithgarwch gwleidyddol cyn y cyfnod rheoledig.
aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, ac eithrio cynghorau plwyf neu gymuned
aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf
Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Yn y gyfraith, gelwir yr unigolion hyn yn ‘rhoddwyr a reoleiddir’.
Dim ond os yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir neu gyda ffynhonnell a ganiateir y gall rhoddwyr rheoledig dderbyn rhodd neu drefnu benthyciad o fwy na £500 a wneir mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol.2
Mae’n rhaid i chi wirio a yw'n ffynhonnell a ganiateir cyn trefnu benthyciad ac mae gennych 30 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch y rhodd i gynnal gwiriadau caniatâd a dychwelyd y rhodd na chaniateir.3
Rydym yn cyfeirio at roddion a benthyciadau ar y cyd fel buddion.
Mae'n rhaid i chi adrodd am fuddion (rhoddion a benthyciadau) pryd bynnag mae cyfanswm y rhoddion caniataol a dderbyniwyd neu'r benthyciadau a drefnwyd gan yr un ffynhonnell yn mynd dros £2,230.4
Gall hyn fod yn un rhodd neu fenthyciad o fwy na £2,230, neu'n fuddion niferus sydd gyda'i gilydd yn gwneud cyfanswm o fwy na £2,230. Mae'n rhaid i chi adrodd am hyn o fewn 30 diwrnod o fodloni'r trothwy adrodd.5
Mae'n rhaid i chi gynnwys rhoddion dros £500 yn unig wrth gyfuno'r buddion gan yr un ffynhonnell.
Mae'n rhaid i chi hefyd adrodd am bob rhodd nas caniateir a dderbyniwyd a benthyciad a drefnwyd gyda gwerth dros £500 o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y gwnaethoch eu dychwelyd neu eu fforffedu.6
Nid oes angen i chi gyfrifo cyfanswm y buddion na chaniateir.
Mae'n rhaid i chi hefyd adrodd newidiadau penodol i fenthyciadau a ganiateir rydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni amdanynt.7
Os cewch eich ethol, bydd y rheolau hyn hefyd yn berthnasol i chi ar ôl cael eich ethol.
Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau ar y rheolau hyn ar ein gwefan.
1. Atodlen 7, paragraff 1(8) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1