Sut rydych yn penderfynu os allwch chi dderbyn rhodd
Dim ond o ffynonellau penodol, sydd wedi’u lleoli'n bennaf yn y DU, y gellir derbyn rhoddion.1
Gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.
Cyn eich bod yn derbyn unrhyw rodd o dros £500 at ddibenion gwariant etholwr, mae’n rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
sicrhau eich bod chi’n gwybod gwir hunaniaeth y rhoddwr
Os nad yw hi'n hollol glir pwy ddylech chi ei drin fel rhoddwr, dylech wirio’r ffeithiau er mwyn gwneud yn siŵr.
Faint o amser sydd gennych chi i wirio'r hyn a ganiateir?
Pan rydych yn derbyn rhodd, mae gennych chi 30 diwrnod i gynnal gwiriadau caniatâd a'i dychwelyd os nad yw’n cael ei chaniatáu.3
Os ydych chi’n cadw rhodd am fwy na 30 diwrnod, tybir eich bod wedi’i derbyn.4
Os ydych chi’n cadw rhodd nad yw wedi'i chaniatáu ar ôl yr amser hwn, mae’n bosibl y byddwch yn cyflawni trosedd ac efallai y byddwn yn gwneud cais i’r llysoedd am iddo gael ei fforffedu i ni fel taliad i mewn i’r Gronfa Gyfunol.5
Os ydych chi wedi derbyn rhodd nad yw’n cael ei chaniatáu, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.
Hyd yn oed os ydych chi wedi gwirio caniatâd mewn perthynas â rhodd flaenorol o’r un ffynhonnell, dylech ystyried a ddylech gynnal gwiriad o’r newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol.
Dylech gadw cofnod o’ch holl wiriadau caniatâd er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw’r rhodd wedi dod gan roddwr a ganiateir, neu na allwch, am ba bynnag reswm, gadarnhau'r ffynhonnell yn iawn, darllenwch Sut i ddychwelyd rhodd? am ganllawiau pellach ynghylch y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.
2. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 2
3. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2) PPERA↩ Back to content at footnote 3
4. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(5) PPERA↩ Back to content at footnote 4
5. Atodlen 6, par. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(4), adran 56(5), adran 57(3) ac adran 58 PPERA↩ Back to content at footnote 5