Rhaid i bob ymgeisydd ar restr plaid gynnwys datganid o aelodaeth plaid ar ei ffurflen cydsynio ag enwebiad.1
Rhaid iddi ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig, ac eithrio'r un y mae'n sefyll ar ei rhan, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol.2
Diffinnir y cyfnod perthnasol fel y 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.3
Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o fwy nag un blaid wleidyddol gofrestredig o fewn y cyfnod perthnasol, heblaw am yr un y maent yn sefyll ar ei rhan, rhaid iddynt gynnwys ar y datganiad:4
enw(au) unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig arall/pleidiau gwleidyddol cofrestredig eraill y maent wedi bod yn aelod ohoni/ohonynt
y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol y maent wedi bod yn aelod o blaid/bleidiau eraill.
Mae’n drosedd peidio â chynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn fwriadol gyda phapur cydsynio ag enwebiad.5
Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y datganiad o aelodaeth plaid yn cael ei chynnwys ar y datganiad am y sawl a enwebwyd ac fe’i cyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.6