| Argraffu'r canllawiau llawn

Ffurflen cyfeiriad cartref

Rhaid i’r papur enwebu gynnwys ffurflen cyfeiriad cartref ar gyfer pob ymgeisydd sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr plaid. 1

Rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio'r ffurflen fel y rhagnodir yn y ddeddfwriaeth (neu ffurflen debyg).2

Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan:3

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • unrhyw enwau a ddefnyddir yn gyffredin, os yw’r rhain wedi’u cynnwys ar eu ffurflen enwebu
  • cyfeiriad cartref llawn yr ymgeisydd.

Rhaid i'r cyfeiriad cartref:

  • beidio â chynnwys talfyriadau
  • fod yn gyfeiriad cartref presennol yr ymgeisydd
  • beidio â bod yn gyfeiriad busnes (oni bai ei fod yn rhedeg busnes o’i gartref).

Nid oes angen i’r cyfeiriad cartref fod yn yr etholaeth Senedd lle mae’r ymgeisydd yn bwriadu sefyll.

Dewis peidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref

Caiff ymgeisydd rhestr plaid ddewis peidio â chyhoeddi ei gyfeiriad cartref ar y datganiad o bleidiau a phersonau a enwebwyd.

Yn yr achos hwn, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys y canlynol, yn ogystal â’i enw llawn a’i gyfeiriad cartref yn llawn:4

  • datganiad, wedi’i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy’n datgan bod angen i’w gyfeiriad cartref beidio â chael ei wneud yn gyhoeddus
  • os yw cyfeiriad ei gartref yng Nghymru, enw’r etholaeth Senedd Cymru neu os yw ei gyfeiriad cartref mewn man arall yn y DU, enw etholaeth Senedd y DU
  • os yw'n byw y tu allan i’r DU, enw’r wlad lle mae ei gyfeiriad cartref.
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026