Rhaid cwblhau’r ffurflen enwebu yn Gymraeg neu yn Saesneg a rhaid iddi gynnwys:
Disgrifiad
Rhaid i’r ffurflen enwebu gynnwys tystysgrif sy’n cynnwys disgrifiad a awdurdodir gennych chi fel Swyddog Enwebu (neu gan rywun a benodir yn ysgrifenedig ar eich rhan).1
Mae’r dystysgrif yn awdurdodi’r defnydd o naill ai enw’r blaid neu un o ddisgrifiadau’r blaid sydd ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol ac wedi’i restru fel un sydd â chaniatâd i gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru.
Rhaid i enw’r blaid neu’r disgrifiad sydd wedi’i awdurdodi ar y ffurflen enwebu gyfateb i enw’r blaid neu’r disgrifiad sydd wedi’i gofrestru ar gofrestr y Comisiwn.2
Caniateir ychwanegu’r canlynol at enw cofrestredig y blaid: Wales/Welsh/Cymru/Cymreig lle nad ydynt wedi’u cynnwys eisoes.3
Llofnod un llofnodwr
Rhaid i'r papur enwebu gael ei lofnodi gennych chi fel Swyddog Enwebu’r blaid neu gan rywun yr ydych wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig.4
Gallwch gynnwys hyd at 8 ymgeisydd ar y rhestr plaid yn y drefn y maent i gael eu hethol.
Mae angen i chi gynnwys enwau llawn pob ymgeisydd:
Mae hyn yn golygu y rhoddir eu cyfenw yn gyntaf ac enwau eraill yn llawn
Gallai defnyddio llythrennau cyntaf yn unig arwain at wrthod enwebiad yr ymgeisydd
Peidiwch â defnyddio rhagddodiadau fel Mr, Mrs, Dr neu Cynghorydd fel rhan o'r enw
Mae’r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd ar restr plaid deitl, gallant ddefnyddio hwn fel eu henw llawn. Er enghraifft, os mai gwir enw’r ymgeisydd yw Joseph Smith, ond eu teitl etifeddol yw Joseph Avon, gallant ddefnyddio’r enw Joseph Avon fel eu henw llawn.