| Argraffu'r canllawiau llawn

Cydsynio ag enwebiad

Rhaid i bob ymgeisydd ar restr plaid gydsynio’n ffurfiol yn ysgrifenedig i gael ei enwebu.1

Gellir cyflwyno’r cydsyniad ag enwebiad i’r Swyddog Canlyniadau yn bersonol neu drwy’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig.2

Mae cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad wedi ei bennu mewn cyfraith.3

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu'r canlynol ar y ffurflen cydsynio ag enwebiad:4

  • eu dyddiad geni
  • cyfeiriad o fewn yr ardal berthnasol,5 bydd hyn yn cael ei ystyried yn gyfeiriad eu swyddfa petaent yn dod yn asiant etholiad y blaid os nad oes un wedi’i benodi. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar asiantiaid etholiad.
  • enw’r ardal awdurdod lleol yng Nghymru lle maent wedi’u cofrestru’n etholwr llywodraeth leol
  • datganiad nad ydynt wedi cael eu hanghymhwyso hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred
  • datganiad nad ydynt yn ymgeisydd unigol sy’n sefyll yn yr un etholaeth neu unrhyw etholaeth arall, neu’n ymgeisydd ar restr plaid mewn unrhyw etholaeth arall

Rhaid i bob ymgeisydd hefyd gynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn ei gydsyniad ag enwebiad.6

Ni chaniateir i ymgeiswyr lofnodi’r ffurflen gydsynio yn gynharach na mis cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r papurau enwebu.7

Rhaid i gydsyniad ymgeisydd ag enwebiad hefyd gael ei ardystio gan dyst.8 Dylai’r tyst fod yn bresennol pan fydd yr ymgeisydd yn llofnodi ei ddatganiad. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all fod yn dyst.

Ar gyfer ffurflenni cydsynio a gyflwynir yn electronig, gallai llofnod electronig fod ar ffurf enw wedi’i deipio yn y bwlch ar gyfer llofnod er enghraifft.

Er nad yw absenoldeb cydsyniad ag enwebiad ymgeisydd ar y rhestr plaid yn annilysu enwebiad rhestr plaid, os na chyflwynir ffurflen gydsynio ar gyfer ymgeisydd penodol ar y rhestr erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais, bydd y Swyddog Canlyniadau yn tynnu’r person oddi ar y rhestr.9

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026