Dylech gyflwyno eich papurau enwebu cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddog Canlyniadau gynnal gwiriad anffurfiol a rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd petai eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn y bleidlais a bydd yn nodi’r amseroedd y gellir cyflwyno’r enwebiadau’n bersonol a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno enwebiadau’n electronig.1
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar wefan y Swyddog Canlyniadau.
Fel arfer, dim ond yn ystod oriau swyddfa y mae'n bosibl cyflwyno papurau enwebu â llaw. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau union fanylion pryd a ble y gellir cyflwyno papurau enwebu yn bersonol ar yr hysbysiad etholiad.
Os ydych yn newid eich meddwl ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu ac nad ydych mwyach eisiau sefyll yn yr etholiad, gallwch dynnu’n ôl, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad.2
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar dynnu’n ôl.