| Argraffu'r canllawiau llawn

Yr ernes

Er mwyn i’ch enwebiad fod yn ddilys, rhaid rhoi'r swm o £500 i’r Swyddog Canlyniadau erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, 4pm 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1 Gellir gwneud yr ernes drwy ddefnyddio:2

  • tendr cyfreithiol (arian parod mewn punnoedd Prydeinig yn unig)
  • drafft banc yn y DU

Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd dderbyn ernes a wneir drwy siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad electronig. Fodd bynnag, efallai y bydd yn gwrthod gwneud hynny. Os ydych chi’n ystyried talu’r ernes drwy un o’r ffyrdd hyn, dylech drafod gyda’r Swyddog Canlyniadau cyn gynted â phosibl a yw’r dull talu’n dderbyniol.

Os yw’r Swyddog Canlyniadau yn caniatáu i’r ernes gael ei thalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, efallai y codir ffi gan y banc neu gwmni cerdyn credyd am y trafodiad, ac os felly, bydd gofyn i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â’r ernes o £500.

Oni bai mai’r person sy’n talu eich ernes yw eich asiant ac rydych wedi hysbysu’r Swyddog Canlyniadau o’u penodiad, rhaid i’r person sy’n gwneud yr ernes roi ei enw a’i gyfeiriad i’r Swyddog Canlyniadau ar yr adeg y maent yn ei thalu.3

Dychwelir yr ernes os byddwch yn derbyn dros fwy na 5% o’r pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholaeth. Bydd yr ymgeiswyr hynny sydd wedi cael llai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn colli eu hernes.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026