Canllawiau i’r Cyfryngau Etholiad Senedd Cymru 2026

Etholiad y Senedd yng Nghymru

Mae’r canllaw hwn yn rhoi atebion i gwestiynau allweddol ar yr etholiad y Senedd a gynhelir ar ddydd Iau 7 Mai 2026 sy’n ymwneud ag ymgeiswyr, gwariant a rhoddion, a’r broses bleidleisio. Gallwch neidio i wahanol adrannau gan ddefnyddio’r tabl cynnwys. Cliciwch ar y cwestiynau i weld atebion.  

Pleidleisio’n bersonol

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddydd Iau 7 Mai. Dylai pleidleiswyr gyrraedd mewn da bryd er mwyn osgoi colli cyfle i ddweud eu dweud. Bydd unrhyw bleidleisiwr sydd mewn ciw yn ei orsaf bleidleisio yn aros i bleidleisio am 10pm yn gallu pleidleisio.  

Cyn y diwrnod pleidleisio, anfonir cerdyn pleidleisio at bleidleiswyr, sy’n cynnwys manylion ble mae eu gorsaf bleidleisio. Gall pleidleiswyr bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar y cerdyn hwn yn unig. Nid oes angen iddynt ddod ag ef gyda nhw i’r orsaf bleidleisio, er y gallai gwneud hynny gyflymu’r broses bleidleisio.

Bydd staff yr orsaf bleidleisio wrth law i esbonio’r papur pleidleisio a sut i bleidleisio. 

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. 

Mae’r Comisiwn yn darparu canllawiau i staff gorsafoedd pleidleisio i’w helpu i wneud yn siŵr bod gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bawb. Ymgynghorwyd ag elusennau a gweinyddwyr etholiadol, cyn diweddaru ein canllawiau, i wneud yn siŵr bod pleidleiswyr anabl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo mewn gorsafoedd pleidleisio. 

Nod ein canllawiau yw cefnogi Swyddogion Canlyniadau i ddeall a nodi’r rhwystrau i bleidleisio a wynebir gan bleidleiswyr anabl. Mae’n nodi’r offer a ddylai fod ar gael o leiaf yn yr orsaf bleidleisio, a pha offer neu gymorth arall a allai fod yn ddefnyddiol eu darparu hefyd. Dylai hyn gynnwys mesurau fel dyfais bleidleisio gyffyrddol, bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn, chwyddwydrau a gafaelion pensiliau. Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ystyried y canllawiau hyn. 

Pleidleisio absennol

Os nad yw pleidleiswyr yn dymuno mynd i orsaf bleidleisio, neu’n methu â gwneud hynny, gallant wneud cais am bleidlais bost drwy lawrlwytho, argraffu a chwblhau ffurflen gais a’i dychwelyd i’w swyddfa gofrestru etholiadol leol erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 21 Ebrill.

Mae’n ofynnol i geisiadau am bleidlais bost gynnwys rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd yn ogystal â’u dyddiad geni a’u llofnod. Defnyddir y rhain i gadarnhau hunaniaeth yr ymgeisydd.   

Mae’n rhaid i bleidleiswyr post ddarparu eu llofnod a’u dyddiad geni wrth wneud cais am bleidlais bost. Wrth fwrw eu pleidlais bost, gofynnir iddynt eto am eu llofnod a’u dyddiad geni. Cymharir y ddau gofnod ac os nad yw’r Swyddog Canlyniadau yn fodlon eu bod yn cyfateb, ni chaiff y papur pleidleisio ei gyfrif.

Bellach mae cyfyngiadau hefyd ar bwy all drin dogfennau pleidleisio drwy’r post. Mae hyn yn cynnwys eu dychwelyd i orsaf bleidleisio neu at y Swyddog Canlyniadau perthnasol. Ni chaniateir i bleidleiswyr gyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy’r post fesul etholiad, yn ogystal â’u pecynnau eu hunain. Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n cyflwyno pleidleisiau post i’r orsaf bleidleisio neu’r Swyddog Canlyniadau perthnasol lenwi ffurflen pleidlais bost.   

Mae hi bellach yn drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi’u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy’r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi diweddaru ei God Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr i adlewyrchu’r newidiadau hyn, sy’n berthnasol i bob plaid wleidyddol, ymgeiswyr a’u cefnogwyr. 

Gall pleidleiswyr na allant, neu nad ydynt am, bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu eu bod yn gofyn i rywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan. Gall pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol, cyfnod hir o amser, neu ar gyfer pob etholiad. Mae angen iddynt lenwi a llofnodi ffurflen gais dirprwy a’i dychwelyd i’w swyddfa cofrestru etholiadol leol erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 28 Ebrill.  

Rhoddion

Rhodd yw arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau a roddir i ymgeisydd, yn ddi-dâl neu ar delerau anfasnachol, ac sydd â gwerth dros £500.  

Caiff unrhyw beth sydd â gwerth o £500 neu lai ei ddiystyru fel rhodd. 

Rhoddion dros £500 o ffynhonnell a ganiateir yw’r unig rai y caiff ymgeiswyr eu derbyn.  

Mae rhoddwyr a ganiateir, ymhlith eraill, yn unigolion ar gofrestr etholiadol y DU (gan gynnwys etholwyr tramor), y rhan fwyaf o gwmnïau cofrestredig yn y DU, ac undebau llafur sydd wedi’u cofrestru yn y DU. Gellir gweld y rhestr lawn o roddwyr a ganiateir yn  ein Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau'r Senedd

 Mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am eu gwariant i’r Comisiwn Etholiadol. Mae’n rhaid rhoi gwybod am wariant o £250,000 neu’n is o fewn tri mis o’r etholiad, erbyn dydd Gwener 7 Awst 2026. Mae’n rhaid rhoi gwybod am wariant dros £250,000 o fewn chwe mis o’r etholiad, erbyn dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2026.  

Mae’n rhaid i ymgeiswyr annibynnol rhoi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau Etholaethol am eu gwariant a’u rhoddion, ynghyd â datganiadau gan yr asiant a’r ymgeisydd yn cadarnhau bod y ffurflen wedi’i chwblhau ac yn gywir ddim yn hwyrach na 21 diwrnod ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan. Os na cheir unrhyw wariant, rhaid i’r ymgeisydd (neu ei asiant) gyflwyno ffurflen dim trafodion.  

Ymgyrchwyr di-blaid yw unigolion a sefydliadau sy’n ymgyrchu dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr neu ar faterion ynghylch etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr.

Mae’n rhaid i ymgyrchwyr di-blaid gofrestru gyda’r Comisiwn os ydynt yn bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Os ydych chi’n gymwys i gofrestru, gallwch chi wario hyd at £10,000 yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn cofrestru. Os nad ydych chi’n gymwys i gofrestru, dim ond hyd at £700 y gallwch chi ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod a reoleiddir, gall ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig wario hyd at £30,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfer ymgyrchwyr di-blaid.

Page history

Diweddarwyd ddiwethaf: