| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?

Bydd gwariant ar unrhyw rai o’r gweithgareddau canlynol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd os defnyddir y gweithgaredd i hyrwyddo’r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir:

  • hysbysebu o unrhyw fath.1  Er enghraifft, posteri, hysbysebion papur newydd, gwefannau neu fideos
  • deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr.2  Er enghraifft, llythyrau, taflenni neu e-byst rydych chi’n eu hanfon ac nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol, gan gynnwys costau cynhyrchu’r anerchiad etholiadol y mae gennych yr hawl i’w anfon am ddim
  • costau cludiant.3  Er enghraifft, car ar log neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eich ymgyrchwyr
  • cyfarfodydd cyhoeddus.4  Er enghraifft, ad-dalu treuliau’r rhai sy’n bresennol, llogi lleoliadau a thalu am nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer cyfarfod cyhoeddus
  • costau staff.5  Er enghraifft, cyflog asiant, neu staff sydd wedi cael eu secondio i chi gan eu cyflogwyr. Nid oes angen i chi gynnwys yr amser a dreuliwyd ar eich ymgyrch gan wirfoddolwyr
  • llety.6  Er enghraifft, swyddfa eich ymgyrch
  • costau gweinyddol.7  Er enghraifft, biliau ffôn, offer ysgrifennu, llungopïo a defnyddio cronfeydd data

Bydd yr holl gostau sy’n gysylltiedig â gweithgaredd yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Er enghraifft, os ydych chi’n cynhyrchu taflenni neu’n hysbysebu, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu.

Mae’n rhaid adrodd am y gwariant hwn ar eich ffurflen wariant ar ôl yr etholiad. Mae gwybodaeth fwy manwl ar bob categori wedi’i chynnwys ar y tudalennau canlynol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025