Mae rhai unigolion a sefydliadau, nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol cofrestredig, yn ymgyrchu dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr, neu ar faterion yn ymwneud ag etholiadau, heb fod ag ymgeiswyr yn sefyll eu hunain.
Mewn cyfraith etholiadol, diffinnir yr unigolion a’r sefydliadau hyn fel trydydd partïon. Rydym yn galw’r rhain yn ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae deddfau y mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eu dilyn ar wariant, rhoddion ac adrodd ynghylch ymgyrchu.
Yn etholiadau’r Senedd, mae ymgyrchoedd lleol wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. O dan y gyfraith, mae ymgyrchoedd lleol yn destun terfyn gwariant. Y terfyn hwn yw £1,000 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.3
Mae terfynau gwariant gwahanol ar gyfer ymgyrchoedd lleol ym mhob math o etholiad.
Nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol ac nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r rheoliadau ymgyrchu lleol yn fanwl.
Dylid gwneud cwynion am dorri’r deddfau sy’n berthnasol i ymgyrchoedd lleol i’r heddlu.
Ymgyrchoedd cyffredinol
Mae’r deddfau ar gyfer ymgyrchoedd cyffredinol wedi’i nodi o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Mae’r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio’r ymgyrchoedd hyn.
Os ydych chi’n ymgyrchu dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr rhestr plaid, neu gategorïau o ymgeiswyr, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda ni a dilyn y deddfau ar wariant ymgyrchu, rhoddion ac adrodd.
Mae’r rhain wedi’u nodi yn canllawiau hyn.
Os yw eich ymgyrch yn cynnwys ymgyrchu lleol a chyffredinol, gall y rheolaethau sy'n berthnasol yn y senarios hyn fod yn gymhleth. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i gael cyngor sydd wedi'i deilwra.