| Argraffu'r canllawiau llawn

Gan bwy allwch chi dderbyn rhodd?

Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.

Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.

Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).

Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.

Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
  • Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
  • Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
  • Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen

Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Rhoddion o ffynhonnell a ganiateir yw'r unig rai y cewch chi eu derbyn.1  Ffynhonnell a ganiateir yw:

  • unigolyn sydd wedi’i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU,2  gan gynnwys etholwyr tramor
  • plaid wleidyddol sydd wedi’i chofrestru ym Mhrydain Fawr3
  • cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU sy’n gwmni corfforedig yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU4
  • undeb llafur wedi’i gofrestru yn y DU5
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi’i chofrestru yn y DU6
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi’i chofrestru yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU7
  • cymdeithas gyfeillgar wedi’i chofrestru yn y DU8
  • cymdeithas anghorfforedig sydd wedi’i lleoli yn y DU ac sy’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU yn gyfan gwbl neu’n bennaf ac sydd â’i phrif swyddfa yn y DU9

Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan rhai mathau o ymddiriedolaethau10  ac o gymynroddion.11  Mae’r rheolau ynghylch y rhoddion hyn yn gymhleth, felly cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Er eich bod, o dan y gyfraith etholiadol, yn gallu derbyn rhoddion yn gyfreithlon gan elusennau sydd yn un o’r ffynonellau a ganiateir ac a restrir uchod, fel arfer ni chaniateir i elusennau wneud rhoddion gwleidyddol o dan y gyfraith elusennau. Dylech gadarnhau bod unrhyw elusen sy’n cynnig rhodd wedi cymryd cyngor gan y rheoleiddiwr elusennol perthnasol cyn ei derbyn hi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Ebrill 2026