Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cynnwys datganiad cyflwyno electronig ar yr hysbysiad etholiad.
Bydd y datganiad hwn yn nodi’r trefniadau sydd gan y Swyddog Canlyniadau ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig.
Dyma'r trefniadau a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau:1
cyfeiriad e-bost y gallwch anfon eich papurau enwebu iddo
gwasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i gyflwyno eich papurau enwebu ar-lein
neu’r ddau opsiwn a restrwyd uchod
Os byddwch yn dewis cyflwyno eich papurau enwebu drwy e-bost, dylech sicrhau eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost penodol at y diben hwnnw fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau gofynnol.
Bydd cyflwyno eich enwebiad i gyfeiriad e-bost nad yw’n benodol at y diben hwnnw yn golygu y bydd eich papur enwebu'n cael ei ystyried fel un sydd heb ei gyflwyno yn ôl y gofynion.
Cyn belled ag y bo modd, dylech atodi'r holl ffurflenni sy'n ofynnol ar gyfer eich enwebiad i'r Swyddog Canlyniadau i un e-bost.