Enghraifft A: Gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir o dan y trothwy adrodd
Dewisodd ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, Save the Trees, gynnwys datganiad na fyddai'n mynd dros y trothwy adrodd yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU wrth gyflwyno ei hysbysiad i gofrestru â ni.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol i Senedd y DU a gynhaliwyd ar ôl mis Tachwedd 2023, gwariodd gyfanswm o £33,000 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Gwariodd Save the Trees £18,000 yn Lloegr, £9,000 yn yr Alban a £6,000 yng Nghymru ar weithgareddau ymgyrchu yn yr etholiad.
Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, roedd yn ofynnol i Save the Trees:
sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ar gael a derbyn rhoddion a ganiateir gwerth dros £500
sicrhau nad oedd wedi gwario dros y trothwy adrodd cyn tynnu ei ddatganiad i'r Comisiwn yn ôl (nad oedd angen iddo ei wneud yn yr achos hwn)
Gan fod datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd ar waith gan Save the Trees ac nid oedd wedi mynd dros y trothwy adrodd yn unrhyw ran o'r DU, nid oedd angen iddo gyflwyno adroddiadau chwarterol nac wythnosol ar roddion cyn yr etholiad yn ystod y cyfnod a reoleiddir nac adrodd ar ei wariant a'i roddion ar ôl yr etholiad.
Enghraifft B: Gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir uwchlaw'r trothwy adrodd
Enghraifft B: Gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir uwchlaw'r trothwy adrodd
Mae gan Alex Smith, sef unigolyn sydd ar y gofrestr etholiadol, gyllideb o £33,000 i'w gwario yn ystod etholiad cyffredinol i Senedd y DU ym mis Rhagfyr 2024. Mae'n bwriadu defnyddio'r arian hwn ar hysbysebion gwleidyddol i gefnogi'r pleidiau a ffefrir ganddo ac mae'n dymuno gwario £25,000 yn Lloegr ac £8,000 yng Ngogledd Iwerddon.
Gan fod Alex yn bwriadu gwario mwy na £10,000 yn y DU, mae'n rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i ni cyn gwario'r swm hwn. Ni all ei hysbysiad gynnwys datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd, gan ei fod yn bwriadu gwario dros £20,000 yn Lloegr, sy'n uwch na'r trothwy adrodd. Unwaith y bydd ei hysbysiad ar waith, bydd Alex yn ddarostyngedig i'r gofynion sy'n berthnasol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Ar ôl i Alex wario dros £20,000 yn Lloegr, bydd wedi gwario mwy na'r trothwy adrodd. Fel trosolwg, rhaid iddo:
sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ar gael a derbyn rhoddion a ganiateir gwerth dros £500
cyflwyno adroddiadau ar roddion yn ystod y cyfnod cyn yr etholiadau
cadw cofnodion o wariant a sicrhau ei fod yn parhau o fewn y terfynau perthnasol
adrodd ar ei wariant a'i roddion ar ôl yr etholiad