Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd gwariant ar unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd os bydd y gweithgaredd yn hyrwyddo'r ymgeisydd:
hysbysebu o unrhyw fath heblaw am yr anerchiad etholiadol swyddogol y gallwch ei roi ar wefan Swyddfa'r Cabinet. 1
Er enghraifft, posteri, hysbysebion mewn papurau newydd, gwefannau neu fideos
costau cludiant.3
Er enghraifft, ceir wedi'u llogi neu drafnidiaeth gyhoeddus i'ch ymgyrchwyr
cyfarfodydd cyhoeddus.4
Er enghraifft, ad-dalu treuliau'r sawl sy'n bresennol, llogi safleoedd a thalu am nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer cyfarfod cyhoeddus
costau staff.5
Er enghraifft, cyflog asiant, neu staff wedi'u secondio gan eu cyflogwyr i chi. Nid oes angen i chi gynnwys amser a dreulir ar eich ymgyrch gan wirfoddolwyr
costau gweinyddol.7
Er enghraifft, biliau ffôn, deunydd ysgrifennu, llungopïau a defnyddio cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys:
yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych yn llunio taflenni neu hysbysebion, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu
eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn y cyfnod a reoleiddir a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir
eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwariant tybiannol.
Rhaid rhoi gwybod am y gwariant hwn ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad. Rhoddir mwy o fanylion am bob categori ar y tudalennau canlynol.