Gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim 1
Nid yw methdaliad ynddo'i hun yn anghymhwysiad. Os ydych wedi eich dyfarnu'n fethdalwr gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu os ydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad interim, nid ydych wedi eich anghymhwyso ar y sail honno, ar yr amod nad ydych hefyd yn destun unrhyw anghymwysiadau methdaliad penodol a restrir isod ar hyn o bryd:
rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad ar hyn o bryd neu orchymyn cyfyngu rhyddhad ar ddyledion a wnaed gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu
mae eich ystâd wedi cael ei secwestru gan lys yn yr Alban ac nid ydych wedi cael eich rhyddhau