Prosesu data personol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus
Mae'r sail gyfreithlon hon dros brosesu data personol yn cwmpasu:
swyddogaethau a phwerau cyhoeddus a bennir yng nghyfraith y DU
cyflawni tasgau penodol er budd y cyhoedd a bennir yng nghyfraith y DU
Yn y sefyllfaoedd canlynol, y sail gyfreithlon dros brosesu yw cyflawni tasg gyhoeddus (h.y. cynnal y gofrestr etholwyr, a gweinyddu'r etholiad) er budd y cyhoedd, fel y nodir mewn cyfraith etholiadol:
Er mwyn gwneud cais i gofrestru i bleidleisio mae angen i Swyddog Cofrestru Etholiadol brosesu rhifau Yswiriant Gwladol a dyddiadau geni fel rhan o'r cais.1
Mae prosesu ceisiadau i gofrestru yn rhan o ddyletswydd statudol gyffredinol y Swyddog Cofrestru Etholiadol i gynnal y gofrestr etholwyr.2
Mae'n ofynnol i Swyddog Canlyniadau brosesu data personol sy'n gysylltiedig ag ymgeisydd at ddibenion enwebu fel rhan o ddyletswydd statudol gyffredinol y Swyddog Canlyniadau i weinyddu'r etholiad yn unol â'r rheolau.3
Bydd angen i chi hefyd ystyried y sail gyfreithlon briodol dros brosesu data personol nas cwmpesir gan ddeddfwriaeth etholiadol. Er enghraifft, gall deddfwriaeth cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol i chi brosesu data personol yn ymwneud â hawl staff gorsafoedd pleidleisio neu ganfaswyr i weithio yn y DU.
Os bydd angen prosesu data personol at ddiben cyflawni tasg gyhoeddus, dylech bennu a chofnodi beth yw sail y dasg gyhoeddus honno. Bydd hyn yn eich galluogi i ddangos y sail gyfreithlon dros brosesu'r holl ddata personol. Efallai y bydd y cyfeiriadau deddfwriaethol yng nghanllawiau'r Comisiwn ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn helpu gyda hyn.
1. Rheoliad 26 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 26 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 1