Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae'n ofynnol i chi gyhoeddi cofrestr olygedig.1
Mae'n ofynnol i chi gynnwys manylion etholwyr yn y gofrestr olygedig os na fyddant yn optio allan.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cadarnhau, gan fod deddfwriaeth yn darparu ar gyfer achosion statudol o optio allan, ynghyd â dyletswyddau Swyddogion Cofrestru Etholiadol, fod hyn yn golygu bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn prosesu data personol i'w cynnwys yn y gofrestr olygedig ar y sail gyfreithlon bod hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Felly ni fydd yr amodau diogelu data ar gyfer cydsynio yn gymwys ac ni fyddant yn effeithio ar y gofrestr olygedig.
1. Rheoliad 93 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 93 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 1