Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Asiantiaid cyfrif

Gellir penodi asiantiaid cyfrif i arsylwi ar y prosesau dilysu a chyfrif.1 Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i asiantiaid cyfrif a benodwyd o'r amser y bydd y prosesau dilysu a chyfrif yn dechrau a'r lleoliad.2   

Rhaid i chi gael eich hysbysu yn ysgrifenedig am benodiad asiantiaid cyfrif o fewn pum diwrnod gwaith fan bellaf cyn yr etholiad er mwyn i'w penodiad fod yn weithredol ar gyfer y dilysu a'r cyfrif.3 Mae'r Comisiwn wedi datblygu'r ffurflen ganlynol ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiant cyfrif. 

Cyfyngu ar nifer yr asiantiaid sy'n bresennol

Yn ôl y gyfraith, caniateir i chi gyfyngu ar nifer yr asiantiaid cyfrif a benodir. Rhaid i nifer yr asiantiaid y caiff pob ymgeisydd eu penodi fod yr un peth ac, oni bai bod amgylchiadau arbennig, ni chânt fod yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny a gyflogir i gyfrif y papurau pleidleisio) â nifer yr ymgeiswyr.4  

Wrth benderfynu ar uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif, dylai pob ymgeisydd, hyd y gellir, gael caniatâd i benodi digon o asiantiaid cyfrif fel y gellir craffu'n llawn ac yn briodol ar y prosesau dilysu a chyfrif. Fodd bynnag, dylech ystyried unrhyw oblygiadau o ran iechyd a diogelwch, gan gynnwys rheoliadau tân ar gyfer y lleoliad dilysu a chyfrif pleidleisiau, wrth benderfynu ar uchafswm yr asiantiaid cyfrif. 

I gael rhagor o fanylion am bwy y caniateir iddo fod yn bresennol yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif, gweler Presenoldeb yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif

Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad

Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif. Dylech hysbysu pob Asiantiaid cyfrif am y gofynion o ran cyfrinachedd ar gyfer yr etholiad.

 

Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol: 

  • gweld neu geisio gweld y rhif neu'r marc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio  
  • cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y broses gyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025