Yn ôl y gyfraith, mae gan asiantiaid pleidleisio yr hawl i gael mynediad i orsafoedd pleidleisio at ddiben canfod achos o gambersonadu.1
Gallant hefyd arsylwi ar y gweithdrefnau i'w dilyn mewn gorsaf bleidleisio.
Rhaid i chi gael eich hysbysu yn ysgrifenedig am unrhyw asiantiaid pleidleisio a benodwyd o fewn pum diwrnod gwaith fan bellaf cyn yr etholiad er mwyn i'w penodiad fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad. Mae'r Comisiwn wedi datblygu ffurflen ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiantiaid pleidleisio.2
Nid oes cyfyngiad ar nifer yr asiantiaid pleidleisio a all gael eu penodi yn etholiad Senedd y DU.
Gall asiant pleidleisio gael ei benodi i orsaf bleidleisio neu orsafoedd pleidleisio penodol, neu bob gorsaf bleidleisio o fewn yr ardal etholiadol. Gellir penodi'r un asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol mewn mwy nag un orsaf bleidleisio. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, dim ond un asiant pleidleisio y gellir caniatáu iddo gael mynediad i orsaf bleidleisio ar yr un pryd ar ran yr un ymgyrchydd.3
Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad
Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Dylech hysbysu pob asiant pleidleisio am y gofynion canlynol o ran cyfrinachedd ar gyfer cynnal y bleidlais.
Yn benodol, rhaid sicrhau na chaiff y wybodaeth ganlynol ei datgelu:
enw neu rif etholiadol y rhai sydd wedi neu heb bleidleisio
y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
Hefyd, rhaid i unrhyw un sy'n mynychu gorsaf bleidleisio sicrhau nad yw'n ceisio canfod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio na phwy y mae ar fin pleidleisio drosto.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o'r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os bydd yr asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod yr oriau pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi wedi'i farcio o'r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio er mwyn sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd. Gall unrhyw un a ddyfernir yn euog o dorri'r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy anghyfyngedig, neu ddedfryd o garchar am hyd at chwe mis.
Ni ellir rhoi seliau asiantiaid pleidleisio ar flychau pleidleisio ar ddechrau'r cyfnod pleidleisio nac yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er y gall asiant pleidleisio arsylwi ar y bleidlais, nid oes rhaid iddo fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i weithdrefnau pleidleisio a gweithdrefnau cysylltiedig gael eu cynnal.