Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Asiantiaid pleidleisio drwy'r post

Yn ôl y gyfraith, caniateir i asiantiaid pleidleisio drwy'r post arsylwi ar y broses o agor blwch pleidleisio pleidleiswyr post, agor pleidleisiau post a ddychwelwyd a chadarnhau llofnodion a dyddiadau geni a nodwyd ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.1  

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr o amser a lleoliad unrhyw sesiwn agor pleidleisiau drwy'r post a nifer yr asiantiaid y gall ymgeisydd eu penodi i fynychu pob sesiwn agor.2  

Rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig o enw a chyfeiriad unrhyw asiantiaid pleidleisio drwy'r post cyn dechrau unrhyw sesiwn benodol y mae'r asiantiaid yn dymuno bod yn bresennol ynddi. Mae'r Comisiwn wedi datblygu'r ffurflen ganlynol ar gyfer hysbysu am benodiad asiant pleidleisio drwy'r post.3

Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad

Caiff papurau pleidleisio eu cadw â'u hwynebau i lawr drwy gydol sesiwn agor amlenni pleidleisiau post.  

Dylech hysbysu pob asiant pleidleisio drwy'r post am y gofynion o ran cyfrinachedd wrth agor pleidleisiau post. 

Dyma'r pwyntiau allweddol: 

  • ni ddylai neb sy'n bresennol yn ystod sesiwn agor geisio gweld sut mae papurau pleidleisio unigol wedi cael eu marcio na chadw cofnod o hynny 
  • ni ddylai neb sy'n bresennol yn ystod sesiwn agor pleidleisiau post geisio edrych ar farciau neu rifau adnabod ar bapurau pleidleisio, datgelu sut mae papur pleidleisio penodol wedi cael ei farcio na throsglwyddo unrhyw wybodaeth o'r fath a geir yn ystod y sesiwn. 
  • gall unrhyw un a ddyfernir yn euog o dorri'r gofynion hyn wynebu dirwy anghyfyngedig, neu ddedfryd o garchar am hyd at chwe mis
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023