Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i ddilyn y manylebau dylunio ac argraffu ar gyfer papurau pleidleisio yn ofalus, fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth.
Yn unol â'r gyfraith, rhaid i bapurau pleidleisio ar gyfer pleidleiswyr post ac at ddefnydd gorsafoedd pleidleisio fod yr un dyluniad a maint, ond gall y marc swyddogol fod yn wahanol os dymunir.1
Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'ch cyflenwr argraffu ar gam cynnar i gadarnhau maint mwyaf y papur pleidleisio y gall ei argraffu, a sicrhau, os oes angen, fod ganddo drefniadau wrth gefn os bydd angen papur pleidleisio mwy o faint.2
Ni ellir cadarnhau cynnwys terfynol y papur pleidleisio nes bod y broses enwebu wedi cau, ond bydd angen i chi wneud penderfyniadau ynghylch elfennau canlynol manyleb y papur pleidleisio ar gam cynnar:
fformat rhifau'r papurau pleidleisio
ffurf cefn y papurau pleidleisio
y marc adnabod unigryw
dyluniad y ‘marc swyddogol’
pa liw fydd y papurau pleidleisio
1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015.↩ Back to content at footnote 1
2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 atodiad ffurflenni. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015.↩ Back to content at footnote 2