Dylai canllawiau i helpu eich staff i brawfddarllen deunyddiau etholiad gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch gwirio'r canlynol:
bod yr holl fanylion wedi'u sillafu'n gywir
bod enwau a chyfeiriadau etholwyr yn gywir ac yn cyfateb i'r gofrestr etholiadol / rhestrau pleidleiswyr absennol
bod y deunyddiau a gaiff eu hanfon at etholwyr yn gywir ar eu cyfer (e.e. yr anfonir y papur pleidleisio cywir ar gyfer eu hardal etholiadol; yr anfonir cardiau pleidlais bost drwy ddirprwy at bob unigolyn sy'n pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy)
bod y dyddiadau cau cywir wedi'u cynnwys lle bo'n berthnasol (e.e. ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost/pleidlais drwy ddirprwy ar gardiau pleidleisio)
lle y rhagnodir ffurflen, ei bod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig
Mewn perthynas â'r papur(papurau) pleidleisio, dylech hefyd wirio'r canlynol:
bod y cyfarwyddiadau argraffu wedi'u dilyn
bod y marc swyddogol a'r marc adnabod unigryw yn gywir
bod y papur pleidleisio yn cynnwys manylion pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol benodol honno; gan gynnwys yr isod:
bod enw ymgeisydd (neu enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin lle y bo'n berthnasol) yn gywir
bod cyfarwyddiadau ar frig pob papur pleidleisio yn gywir ar gyfer yr ardal etholiadol honno
Sicrhewch bod cynnwys y pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i ragnodi a dylech sicrhau bod yr holl fanylion perthnasol wedi'u cynnwys ar y deunyddiau hynny. Dylech hefyd wirio bod y datganiad(au) pleidleisio drwy'r post yn cynnwys y canlynol:
rhifau papur pleidleisio sydd wedi'u hargraffu'n gywir
cyfarwyddiadau pleidleisio cywir ar gyfer yr ardal etholiadol